Y Dihangiad
Y podlediad seiclo Cymraeg
Sut i danysgrifio?

Wrth gwrs, mae'n bosib gwrando neu lawrwytho'r podlediad yn uniongyrchol o'r wefan, ond mae'n haws, yn yr hir dymor, i danysgrifio i'r sioe fel bod pennodau newydd yn cael eu hanfon yn syth i'ch cyfrifiadur neu ffon. iTunes Y ffordd mwya poblogaidd i danysgrifio yw trwy itunes. Cliciwch ar y ddolen isod i wneud hynny.

https://itunes.apple.com/gb/podcast/y-dihangiad/id1251863489

Bydd y ddolen yn eich tywys i dudalen y podlediad ar wefan itunes. O dan logo 'Y Dihangiad', dylse fod botwm yn dweud 'View in iTunes'. Cliciwch ar y botwm i agor iTunes ar eich cyfrifiadur (os nad yw rhaglen iTunes ar eich cyfrifiadur, bydd angen ei lawrlwytho a rhedeg y rhaglen). Dylse chi nawr fod yn edrych ar dudalen iTunes 'Y Dihangiad'. Cliciwch a y botwm 'Subscribe' yn y blwch bach a fydd yn ymddangos.

Gyda lwc, dylse chi nawr fod wedi tanysgrifio i'r podlediad, a bydd y bennod ddiweddara yn ymddangos yn awtomatig yn eich casgliad iTunes.

App podlediade Os oes gennych app podlediadau, dylse fod yna'r opsiwn i danysgrifio trwy ddefnyddio'r RSS feed. Copiwch y ddolen isod i fewn i'r app.

https://pinecast.com/feed/y-dihangiad

Os oes angen mwy o gyfarwyddiadau sut i danysgrifio, danfonwch neges i ni ar Twitter (@ydihangiad), a fe wnewn ni drial ein gorau i'ch helpu. Mi fydde'n help mawr os y gallwch chi ddweud pa gyfrifiadur / ffon sy 'da chi, a pha wefan neu app ry' chi'n ei ddefnyddio, yn y neges.